Home > Cymraeg
Cymraeg
Croeso i Fframweithiau Prentisiaeth ar-lein
Teclyn yw’r wefan hon i ddatblygu a chyhoeddi fframweithiau prentisiaeth yng Nghymru a Lloegr. Bydd yn eich helpu i wneud y canlynol:
- dysgu pa fframweithiau prentisiaeth sydd ar gael a pha rai sy’n cael eu datblygu
- chwilio am fframwaith fesul sector, teitl swydd, cymhwyster a lefel
- deall sut i gynnig syniad am fframwaith a sut i fynd i’r rhan datblygu fframwaith ar y wefan hon
- deall sut caiff fframweithiau’u datblygu, eu cyhoeddi a’u hadolygu yng Nghymru a Lloegr
- deall pwy all wneud hyn a pha mor hir y bydd hyn yn cymryd
- dod i arfer â’r broses a’r derminoleg ar gyfer fframweithiau gan ddefnyddio’r adran cwestiynau cyffredin a’r eirfa dermau.
Mae’n eich cyfarwyddo at:
- wefannau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon lle gallwch ddysgu mwy am y broses datblygu a chyhoeddi fframweithiau prentisiaeth yn y gwledydd hyn
- gwefannau yng Nghymru a Lloegr sy’n ymwneud â hyrwyddo ac ariannu prentisiaethau
- Y gwasanaethau paru prentisiaethau gwag yn Lloegr
- Y peilot ar gyfer y gwasanaeth paru prentisiaethau yng Nghymru.